Am Nicola, Gweinydd Angladdau
Yn gyntaf ac yn bennaf pan dwi’n gweithio, dwi’n gwrando. Wrth ysgrifennu a darparu dathliad bywyd dwi’n dangos i chi, y person sy’n galaru, fy mod i wedi clywed yr hyn sydd yn wirioneddol o bwys i chi am yr ymadawedig. Fy mwriad i yw dweud beth yr ydych chi’n cadw yn eich calon, hynny yw, fi yw eich llais. I fi mae angladd da yn ymwneud â mynegi ystyr bywyd yn ôl barn y galarwr, i alluogi ffarwél go iawn a fydd yn cynorthwyo’r rhai sydd yn byw i gario ymlaen ac ailennill hapusrwydd yn eu bywydau. Dyma fy rheswm i dros wneud fy ngwaith fel Gweinydd Angladd.
Dwi wastad wedi cael fy nenu at ddeall ac at wneud cyswllt gyda phobl, ond eto pan oeddwn yn fy nhridegau bu farw plentyn lleol a doedd gen i ddim syniad beth i ddweud a allai fod o gysur i’r fam. Nes i osgoi fynd i’w gweld. Ar y pryd, roedd yn amhosib i mi gael hyd at eiriau a fyddai hi eisiau clywed. Penderfynais nad oeddwn byth am fod yn yr un sefyllfa eto ac es i wirfoddoli efo Gofal Profedigaeth Cruse (Cruse Bereavement Care) a gyda nhw cefais hyfforddiant, fel cefnogwr un-i-un, i’r sawl sy’n galaru. Ar yr un pryd hyfforddais fel cwnselydd.
Ers hynny dwi wedi eistedd efo cannoedd o bobl o bob oedran a chefndir, mewn llawer gwahanol fathau o brofedigaethau. Clywais straeon am angladdau a darganfyddais gall ansawdd y digwyddiad gael effaith gadarnhaol ar sut mae bobl yn byw efo’u galar. Dysgais ei bod yn help i allu dweud ffarwèl a diolch i’r person a fu farw mewn ffordd ystyrlon. Pan rydym yn wir anrhydeddu bywyd yr ymadawedig, mae hyn yn ein helpu ni yn raddol i ddod i arfer ag absenoldeb corfforol parhaol.
Yn aml dywedir, er bod person yn marw, gall y berthynas rhyngoch barhau. Wrth wrando ar rai mewn profedigaeth dwi’n gweld bod angen siarad am yr ymadewedig, eu meddyliau a’u teimladau, heb eu barnu; gall hyn fod yn gymhleth ac yn anodd. Gall adrodd hanes eich cysylltiad â rhywun helpu cynnnal y berthynas ymhell i’r dyfodol, os dymunwch.
Pan ddywedodd cydweithiwr wrthyf ei fod yn gwneud rhywfaint o hyfforddi fel Gweinydd Angladd roedd gen i ddiddordeb yn syth. Nid oeddwn wedi sylweddoli gallai pobl digrefydd arwain gwasanaeth angladd yn broffesiynol. Mynychais hyfforddiant gyda Chymrodoriaeth Gweinyddwyr Annibynnol (Fellowship of Independent Celebrants/FOIC) a dechreuais osod gwasanaethau angladd o gwmpas fy swydd fel cwnselydd. Digwydd bod mae’r ddwy rôl yma yn gweithio’n dda gyda’i gilydd.
Ysgrifennais fy nheyrngedau cyntaf ar gyfer aelodau fy nheulu a dysgais pa mor bwysig yw hi bod y rhai sydd yn gwrando yn clywed geiriau sy’n taro deuddeg gyda nhw. Roedd yn bwysig bod pob aelod o fy nheulu yn adnabod y person ymadawedig drwy fy ngeiriau i. Ar gyfer un angladd, lle carwyd ac edmygwyd y person gan bawb, roedd hyn yn syml. I un arall, lle roedd gan yr ymadawedig berthynas mwy gymhleth â’i anwylaf, roedd angen ystyried ac ysgrifennu yn ofalus iawn.
Mae ysgrifennu a chyflwyno angladd i’r rhai sydd yn galaru yn fraint ac yn anrhydedd ac yn gwneud y gwaith yn foddhaol iawn.

Tystebau i Nicola Dunkley
















