Polisïau'r Wefan
Polisi Cwcis
Cyflwyniad
Mae’r Polisi Cwcis yn amlinellu’r ffordd rydym yn defnyddio cwcis ar wefan www.nicoladunkley.co.uk. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i delerau’r polisi hwn ac yn caniatáu ein defnydd o gwcis. Fodd bynnag, gallwch fynegi eich rhyddid i wneud dewisiadau, ac analluogi neu ddileu cwcis yn eich porwr ar unrhyw adeg. Bydd analluogi cwcis yn dirywio’r ffordd mae’r wefan hon yn gweithio, a’ch profiad o’i defnyddio.
Beth Yw Cwcis?
Mae cwcis yn ddarnau bach o ddata sydd mewn ffeiliau testun, sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur chi, neu ddyfais arall sydd wedi cysylltu â’r Rhyngrwyd, pan fydd gwefannau yn cael eu llwytho mewn porwr. Fe’i defnyddir yn eang i’ch ‘cofio’ chi a’ch dewisiadau, un ai ar gyfer ymweliad unigol (gyda ‘cwci sesiwn’) neu ar gyfer nifer o ymweliadau dilynol (gyda ‘cwci parhaus’). Maen nhw’n sicrhau profiad cyson ac effeithiol ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio gwefannau, ac yn gweithredu swyddogaethau allweddol megis galluogi defnyddwyr i gofrestru a pharhau wedi mewngofnodi, neu ddewis iaith. Efallai y bydd cwcis yn cael eu gosod gan y wefan rydych chi’n ymweld â hi (fe’u gelwir yn ‘cwcis parti cyntaf’), neu bartïon ac eithrio perchennog y gwefan, megis y rheiny sy’n darparu cynnwys, hysbysiadau neu wasanaethau dadansoddeg ar y wefan (fe’u gelwir yn ‘cwcis trydydd parti’).
Bydd y rhan fwyaf o borwyr yn eich galluogi chi i reoli’r ffordd yr ymdrinnir â chwcis, a ydych yn eu derbyn neu’n eu gwrthod, a pha mor hir y dylid eu storio nhw ar eich cyfrifiadur. Mae porwyr hefyd yn eich galluogi chi i ddileu cwcis ar unrhyw adeg. Mae pob porwr yn gwneud hyn mewn ffordd wahanol, ond os oes gennych bryder ynghylch eich preifatrwydd a’ch diogelwch o ran cwcis, edrychwch am y ddogfennaeth ‘help’ ar gyfer eich porwr penodol.
Y Ffordd Rydyn Ni’n Defnyddio Cwcis Ar Ein Gwefan
Mae’r wefan yn defnyddio cwcis sydd eu hangen ar gyfer gweithredu’r wefan yn normal. Gall analluogi cwcis effeithio ar y ffordd mae’r wefan yn gweithio, a’ch atal chi rhag ei defnyddio’n llwyr, neu rannau ohoni. Ni ddefnyddir y cwcis hyn i’ch adnabod chi na’ch olrhain chi. Nid ydym yn defnyddio cwcis at ddibenion hysbysebu. Ni ddefnyddir cwcis i olrhain a chofnodi data ymwelwyr.
Mae’r wefan yn defnyddio pedwar math o gwci:
- Cwcis a ddefnyddir gan ein cwmni cynnal gwefan i adnabod bots
- Cwcis a ddefnyddir gan ein cwmni cynnal gwefan i reoli traffig
- Cwcis sydd eu hangen ar gyfer gweithrediad arferol WordPress
- Cwcis a ddefnyddir gan ein darparwr thema WordPress, Elementor
Ni ddefnyddir unrhyw gwcis eraill gan y wefan hon. Mae’r data a gesglir gan y cwcis hyn yn ddienw.
Cysylltu â Ni
Os hoffech gysylltu â ni ynghylch ein Polisi Cwcis, neu unrhyw fater arall, defnyddiwch ffurflen gyswllt y wefan hon. Cyfeiriad gwe y ffurflen gyswllt yw: www.nicoladunkley.co.uk/cysylltwch/.

Polisi Preifatrwydd
Cyflwyniad
Mae’r polisi hwn yn nodi sut rydyn ni’n casglu, prosesu ac yn defnyddio’r ychydig wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu yn eich cylch ar ein gwefan, www.nicoladunkley.co.uk. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i delerau’r polisi hwn. Mae Nicola Dunkley wedi ymrwymo i ddiogelu a gwarchod eich preifatrwydd. Pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni, byddwn yn trin y wybodaeth honno yn unol â’r polisi hwn, deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol y DU, Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, ac arferion gorau’r Rhyngrwyd.
Y Wybodaeth Rydym Yn Ei Chasglu
Gallwch ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r nodweddion ar y wefan hon heb ddatgan unrhyw wybodaeth bersonol. Mae rhai nodweddion opsiynol, megis y ffurflen gyswllt, yn gofyn i chi nodi ychydig o wybodaeth bersonol (e.e. enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, lleoliad a neges). Mae’r ffurflen gyswllt yn cael ei chadw ar y wefan hon, ac mae’r holl wybodaeth sy’n cael ei thrawsyrru drwy’r ffurflen hon wedi’i hamgryptio.
Drwy ddarparu eich data personol i ni, rydych yn rhoi caniatâd i ni gadw a phrosesu eich data, fel y nodwyd yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gweler yr adran Rheoli Eich Gwybodaeth Sydd Dan Ein Gofal Ni am fanylion ynghylch tynnu caniatâd yn ôl.
Cwcis
Mae cwcis yn ddarnau bach o ddata sydd mewn ffeiliau testun, sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur chi, neu ddyfais arall sydd wedi cysylltu â’r Rhyngrwyd, pan fydd gwefannau yn cael eu llwytho mewn porwr. Fe’i defnyddir yn eang i’ch ‘cofio’ chi, ac unrhyw ddewisiadau y byddwch yn eu gwneud o ran sut rydych chi’n defnyddio’r wefan (megis iaith). Fel arfer, mae cwcis un ai’n para ar gyfer ymweliad unigol (gyda ‘cwci sesiwn’) neu ar gyfer nifer o ymweliadau dilynol (gyda ‘cwci parhaus’). Dim ond ar gyfer gweithredu’r wefan hon yn arferol rydyn ni’n defnyddio cwcis. Gallwch ddysgu mwy am y cwcis, a sut rydyn ni’n eu defnyddio nhw yma, www.nicoladunkley.co.uk a chofiwch ddarllen ein Polisi Cwcis.
Sut Rydym Yn Defnyddio Eich Data Personol
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu’n bennaf ar www.nicoladunkley.co.uk i gyfathrebu gyda chi. Rydym yn defnyddio’r ffurflen gysylltu ar y wefan hon i gyfathrebu’n uniongyrchol gydag unrhyw un sy’n ei llenwi a’i chyflwyno. Drwy nodi eich gwybodaeth ar ein ffurflen gysylltu, rydych yn rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi a defnyddio’r manylion rydych wedi’u darparu at y dibenion rydym wedi’u hamlinellu yn y ddogfen hon. Ni fyddwn yn trosglwyddo, neu’n gwerthu, eich gwybodaeth i barti arall, oni bai ei fod yn ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith. Gallwch ofyn i dynnu eich gwybodaeth oddi ar ein systemau ar unrhyw adeg. Gweler yr adran Rheoli Eich Gwybodaeth Sydd Dan Ein Gofal Ni am fanylion ynghylch sut i dynnu caniatâd yn ôl fel nad ydym yn dal, nag yn defnyddio’ch gwybodaeth.
Datgelu A Chadw Eich Data
Ni fyddwn yn gwerthu, nac yn rhoi eich data i unrhyw drydydd parti nad ydynt wedi cael eu henwi yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Byddwn yn cadw’ch data personol cyn hired ag y bo’n hanfodol, er mwyn cynnig gwasanaethau safonol i chi. Gellir tynnu gwybodaeth bersonol a anfonir atom yn ôl ar unrhyw adeg. Gweler yr adran Rheoli Eich Gwybodaeth Sydd Dan Ein Gofal Ni i gael gwybodaeth bellach ynghylch tynnu caniatâd yn ôl.
Yn olaf, efallai y datgelir eich gwybodaeth yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, er enghraifft, os bydd hynny’n ofynnol yn ôl awdurdodau atal twyll neu droseddau eraill.
Ein Dull O Ddiogelu Eich Data Personol
Rydym yn ymdrin â diogelwch o ddifrif, ac yn cymryd mesurau priodol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei dal gennym ni yn cael ei chadw ar systemau sy’n cael eu diogelu gan systemau diogelwch electronig, ac maen nhw’n cael eu hategu’n rheolaidd.
Cynnwys Wedi’i Fewnosod O Wefannau Eraill
O fewn yr erthyglau ar y wefan hon efallai y gwelir cynnwys wedi’i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau ac ati) o wefannau trydydd parti arall. Mae cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un ffordd yn union â phe byddech chi wedi ymweld â gwefan arall. Efallai y bydd y gwefannau hyn yn casglu data yn eich cylch chi, yn defnyddio cwcis, a systemau olrhain trydydd parti ychwanegol i fonitro eich defnydd o’r cynnwys hwnnw sydd wedi’i fewnosod.
Nid ydym yn gyfrifol am y data mae’r gwefannau hyn yn ei gasglu, nag ychwaith sut maen nhw’n defnyddio’ch data. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y ffordd mae’r gwefannau hyn yn casglu a thrin eich data, tarwch olwg ar Delerau ac Amodau eu Gwefan a’u Polisïau Preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth.
Rheoli Eich Gwybodaeth Sydd Dan Ein Gofal Ni
Mae gennych hawl gweld copïau o’r holl ddata personol a gedwir gennym ni, ac i newid, i gywiro, neu ddileu data o’r fath. Gallwch dynnu eich caniatâd i ni gadw a defnyddio’ch gwybodaeth yn ôl ar unrhyw adeg. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, neu rydych eisiau tynnu eich caniatâd yn ôl o ran eich data, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen gyswllt. Nodwch ‘Caniatâd Gwybodaeth’ yn llinell neges y ffurflen gyswllt.
Byddwn yn ymateb i’ch ceisiadau ‘Caniatâd Gwybodaeth’ cyn gynted â phosibl, fel arfer erbyn y diwrnod gwaith dilynol. Byddwn yn ymdrechu i ddelio â’ch ymholiad, fodd bynnag, mewn rhai achosion efallai y bydd yn gyfreithiol ofynnol i ni gadw data neu wybodaeth benodol.
Cwynion
Os ydych eisiau gwneud cwyn am y ffordd rydym yn defnyddio’ch data personol, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen gyswllt (www.nicoladunkley.co.uk/cysylltwch/). Nodwch ‘Cwyn’ yn llinell neges y ffurflen gyswllt.
Y ogystal â gwneud cwyn yn uniongyrchol atom ni, mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (www.ico.org.uk). Dyma’r corff sy’n gyfrifol am ddiogelu data personol yn y DU.
Addasiadau I’r Polisi
Ar brydiau, byddwn yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn drwy rannu fersiwn newydd ar ein gwefan. Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’r polisïau hyn oherwydd penderfyniadau busnes neu newidiadau mewn deddfwriaeth. Er eich budd eich hun, cofiwch daro golwg ar y dudalen hon yn aml i sicrhau eich bod yn gyfforddus ag unrhyw newidiadau a wnaed.
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn, ynghyd â’n Polisi Cwcis a Thelerau ac Amodau yn cynnwys y cytundeb llawn rhyngom ni a chi mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan. Mae’r polisïau’n disodli’r holl gytundebau blaenorol mewn perthynas â’ch defnydd o’r wefan hon.
Cysylltu â Ni
Os hoffech gysylltu â ni ynghylch ein Polisi Preifatrwydd, neu unrhyw fater arall, defnyddiwch ffurflen gyswllt y wefan hon. Cyfeiriad gwe y ffurflen gyswllt yw: www.nicoladunkley.co.uk/cysylltwch/.

Telerau Ac Amodau
Cyflwyniad
Mae’r telerau a’r amodau isod yn rheoli eich defnydd o wefan www.nicoladunkley.co.uk. Drwy barhau i ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau a’r amodau hyn yn llawn. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r telerau a’r amodau hyn, gofynnwn i chi beidio â defnyddio ein gwefan. Nid yw ein Polisi Preifatrwydd a’n Polisi Cwcis yn ffurfio rhan o’r Telerau Ac Amodau hyn, ond maent yn ffurfio rhan o’ch caniatâd wrth ddefnyddio ein gwefan. Cofiwch fynd ati i’w darllen nhw.
Mae’r term www.nicoladunkley.co.uk neu ‘ni’ yn cyfeirio at berchennog y wefan. Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at rywun sy’n defnyddio neu’n ymweld â’n gwefan.
Hawliau Eiddo Deallusol
Oni bai y nodwyd yn wahanol, mae hawliau eiddo deallusol y wefan, a’r deunydd arni, yn eiddo i Nicola Dunkley.
Trwydded I Ddefnyddio’r Wefan Hon
Wrth ddefnyddio gwefan www.nicoladunkley.co.uk gallwch weld tudalennau, eu hargraffu, a’u lawrlwytho at ddibenion storio.
Fodd bynnag, mae’r amodau canlynol yn berthnasol:
- Ni ddylid ailgyhoeddi deunydd oddi ar y wefan hon mewn unrhyw ffurf, neu ei ailgynhyrchu neu ei storio ar unrhyw wefan arall, neu system gadw heb i ni roi caniatâd.
- Ni ddylech gopïo, gwerthu, nag ailwerthu neu ecsbloetio’r deunydd ar ein gwefan at ddibenion masnachol.
- Ni ddylid golygu neu addasu deunydd ar ein gwefan mewn unrhyw ffordd.
Gall defnyddio’r wefan hon heb awdurdod arwain at greu hawliad am ddifrod a/neu euogfarn o drosedd.
Cyfyngu Ar Atebolrwydd
Rhennir y wybodaeth ar y wefan hon am ddim, heb gostau. Ymdrechwn i sicrhau bod y wybodaeth ar ein gwefan yn gywir; fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu ei chywirdeb, ei pherthnasedd, perfformiad, cyflawnder nag addasrwydd. Gall y cynnwys ar y wefan hon newid heb rybudd. Nid ydym yn atebol am y wybodaeth a ddarperir. Rydych yn defnyddio’r wybodaeth ar y wefan hon ar eich menter eich hun, ac ni fyddwn yn atebol am hynny. Fe ymdrechwn i sicrhau bod ein gwefan ar gael, fodd bynnag nid ydym yn gwarantu defnydd gwbl barhaus.
O bryd i’w gilydd, efallai y bydd y wefan hon hefyd yn cynnwys dolenni at wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn at eich cyfleustra i ddarparu gwybodaeth bellach. Nid yw hynny’n golygu ein bod ni’n cefnogi’r gwefannau hynny. Nid oes gennym gyfrifoldeb, ac ni allwn fod yn atebol, am gynnwys unrhyw rai o’r gwefannau hyn.
Mae eich defnydd o’r wefan hon, ac unrhyw wrthdaro sy’n deillio o’r defnydd hwnnw, yn destun deddfau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Cysylltu â Ni
Os hoffech gysylltu â ni ynghylch ein Telerau Ac Amodau, neu unrhyw fater arall, defnyddiwch ffurflen gyswllt y wefan hon. Cyfeiriad gwe y ffurflen gyswllt yw: www.nicoladunkley.co.uk/cysylltwch/.

◊ Diweddariad diwethaf o’r polisiau: Mai 2024