Costau

Cost – fel arfer mae’r Trefnydd Angladdau yn fy nhalu yn uniongyrchol

Fy ffi yw £225 ar gyfer Gwasanaeth Angladd a Dathliad Bywyd. Mae hyn yn cynnwys ymweliad â thrafodaeth ymlaen llaw, cynllunio’r gwasanaeth, darparu drafft cyntaf y gwasanaeth, a’r rhai canlynol, a bod yno ar y diwrnod i draddodi’r gwasanaeth. Mae Gwasanaeth Coffa hefyd yn £225.

Pethau a fydd yn cynyddu cost fy ngwasanaeth i chi

Petai’r gwaith ymchwil, cynllunio, ysgrifennu a chyflwyno’r gwasanaeth, gan gynnwys amser teithio, yn cymryd mwy na thua 8 awr, byddaf yn codi tâl am fy nghostau ac amser teithio ychwanegol. (Taith car dros 20 milltir @ 45c/fllt a £30 yr awr). Byddaf yn codi £50 yn ychwanegol am wasanaeth ar y penwythnos a gwasanaeth dwbl y hyd.

Dim tâl:

Mae traddodiad yn y byd angladdau o beidio codi tâl ar gyfer gwasanaethau i’r marwanedig, i fabanod ac i blant hyd at, ac yn gynnwys 17 blwydd oed. Mae’r holl waith: ymweliadau, trafodaethau, ysgrifennu a chyflwyno’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, dwi’n ofalus iawn gyda’r gwaith yma ac yn fy mhrofiad i mae rhai rhieni eisau ac angen fy nhalu, ac felly wrth gwrs fe gawn.

Os ydych chi’n gwybod na allwch fforddio’r ffi, siaradwch â fi. Dwi’n hunan-gyflogedig felly does dim tâl salwch na phensiwn gen i. Fodd bynnag, nid ydw i byth eisiau i unrhyw un deimlo na allant ddefnyddio fy ngwasanaeth oherwydd cost, felly mi wnaf y gorau gallaf i gynnig gostyngiad os siaradwch â fi.

 Yn ychwanegol:

Weithiau mae gan bobl geisiadau arbennig am help e.e.

  • Efallai rydych chi am gynllunio y gwasanaeth angladd eich hun a hoffech gael rhywfaint o gymorth i wneud hynny.

  • Efallai rydych chi’n bwriadu hwyluso’r gwasanaeth angladd ar ben eich hunan ac eisiau peth cyngor yn unig, neu’r gefnogaeth i wneud hynny. Yn y sefyllfa yma, dwi’n codi tâl o £30 yr awr.