Beth yw Gweinydd Angladd?

Dwedodd trefnydd angladdau wrthaf pan mae’n ymweld â theulu mae’n cynghori, “Petaech chi eisiau gwasanaeth am Dduw neu un sydd yn canolbwyntio ar eich ffydd grefyddol, gofynnwch am Weinidog i’w arwain. Os oes well gynnoch chi wasanaeth am yr un a fu farw, holwch am Weinydd.”

Lleoliadau’r Gwaith

Mae’r rhan fwyaf o’r angladdau a dathliadau bywyd dwi’n cyflwyno yn Amlosgfa Aberystwyth, sydd mewn lleoliad hyfryd ar gyrion y dre. Mae gan y capel ffenestr maint wal sydd yn edrych allan dros gefn gwlad tawel a gwyrdd islaw. Yn ogystal gellir gweld bwydydd adar sydd yn denu amrywiaeth eang ohonynt – rhywbeth sydd yn cysuro llawer o alarwyr wrth iddynt fynychu gwasanaeth.

Dwi hefyd wedi gwasanaethu mewn caeau, ar ffermydd, mynwentydd ac mewn safleoedd dynodedig ar gyfer claddu gwyrdd; ar ben hynny dwi wedi arwain gwasanaethau coffa mewn pob math o leoliadau, gan gynnwys neuaddau pentref a chartrefi preifat. Dwi’n fodlon teithio tu allan i fy milltir sgwâr os oes gen i’r amser a bod costau teithio yn cael eu talu. Po fwyaf o rybudd rydych chi’n gallu rhoi i mi, y mwyaf tebygol yr ydw o’ch gallu helpu.

Gweithio gyda Threfnyddion Angladdau

Ers i mi ddechrau gweithio fel Gweinydd Angladd, mae wedi bod yn fraint mawr i weithio gyda sawl gwahanol Trefnydd Angladdau, pob un ohonynt heb gwestiwn ag arddull a phersonaliaeth unigryw, pob un yn brofiadol ac yn hollol broffesiynol. Rydym yn lwcus iawn yn ardal Aberystwyth i allu dewis rhwng cwmniau teuluol sefydledig yn ogystal â threfnwyr ifanc a phrofiadol. Hefyd mae gynnon ni y dewis rhwng trefnyddion benywaidd a gwrywaidd.

Weithiau, y trefnydd sydd yn hysbysu’r teulu agosaf amdanaf i ac weithiau mae’n digwydd i’r gwrthwyneb, petai’r teulu eisoes yn fy adnabod i. Y Trefnydd sydd yn fy nhalu fel arfer ac mae fy ffi yn cael ei gynnwys yn y bil a ddaw i chi. Petaech chi eisiau fy nhalu i ar wahan, mae’n bosib ond mae’n well i chi fod yn berffaith glir am hyn cyn diwrnod y Gwasanaeth.  

Nid ydwi’n argymell unrhyw drefnydd angladdau yn benodol oherwydd eich dewis personol chi yw hynny. Yr hyn gallaf i ddweud yw bod pawb dwi wedi gweithio efo nhw wedi perfformio i’r safon uchaf bob tro a dwi wedi bod yn hapus i gael fy nghysylltu â nhw. Os dymunwch mwy o gyngor am sut i ddewis eich trefnydd siaradwch gyda fi.

Cwnsela

Os ydych chi’n teimlo y byddech chi’n elwa o gwnsela, mae croeso i chi ddod i fy ngweld neu fe allech chi gael cefnogaeth yn rhad ac am ddim gan elusen fel Cruse Bereavement Care.

Am Nicola

Pan oeddwn i yn fy 30au, bu farw plentyn lleol a doedd gen i ddim syniad beth i ddweud wrth y fam a allai fod yn gysur. Penderfynais i nad oeddwn i byth eisiau bod yn yr un sefyllfa eto ac es i i wirfoddoli efo Cruse Bereavement Care, a hyfforddwyd fi fel cefnogwr un-i-un ar gyfer bobl sydd yn galaru. Ers hynny, dwi wedi eistedd efo cannoedd o bobl o bod oedran a chefndir a llawer o wahanol fathau o brofedigaethau. Dysgais ei fod yn gymorth i allu dweud ffarwèl a diolch i’r person a fu farw mewn ffordd ystyrlon. I lawer ohonom y cyfle cyntaf i wneud hyn yw yn yr angladd. Pan wir anrhydeddwn ni fywyd yr ymadawedig , mae’n ein helpu ni, yn raddol, i ddod i arfer ag absenoldeb parhaol corff.

Costau

Fy ffi ar gyfer y rhan fwyaf o angladdau yw £225.

Seremonïau Ysgaru

Mae gen i ddiddordeb mewn helpu cyplau sy’n dod â’u priodas i ben i greu seremoni ysgaru i anrhydeddu’r hyn sydd wedi mynd o’r blaen ac edrych i’w dyfodol newydd a gwahanol, beth bynnag fo hynny.

Tystebau i Nicola Dunkley

Cwblhewch y ffurflen gyswllt

Cwblhewch y ffurflen isod a chliciwch ar y botwm ‘cyswllt’ er mwyn anfon ebost ataf.  Fe fydda i’n cysylltu yn fuan.