Beth yw Gweinydd Angladd?
Beth yw fy swydd fel Gweinydd Angladd a beth Rydw i’n darparu?
Dwedodd trefnydd angladdau wrthaf pan mae’n ymweld â theulu mae’n cynghori, “Petaech chi eisiau gwasanaeth am Dduw neu un sydd yn canolbwyntio ar eich ffydd grefyddol, gofynnwch am Weinidog ei arwain. Os oes well gynnoch chi wasanaeth am yr un a fu farw, gofynnwch am Weinydd Angladd.”
Dwi’n credu mai prif blaenoriaeth Gweinydd Angladd yw darparu gwasanaeth sydd yn cwrdd â’ch anghenion. Gallai’r anghenion gynnwys:
Faint (neu cyn lleied) yr ydych chi eisiau dweud am yr un a fu farw e.e.
hanes ei fywyd/ei bywyd
arwyddocâd ei fywyd/ei bywyd
dangos hanfod yr ymadawedig
dod o hyd o eiriau sydd yn mynegi, mor agos ag yr ydym ni’n gallu, eich meddyliau a’ch teimladau chi amdano/amdani,
talu parch ac anrhydeddu’r bywyd a ddaeth i ben
Dewis cerddoriaeth addas, cerddi a darlleniadau cywir (os ydych chi am y rhain).
Dod o hyd i emynau neu i weddi (neu beidio, os nad ydych am eu cael) – mae llawer sy’n dewis Gweinydd Angladd yn gwneud am y rheswm nad ydyn nhw eisiau gwasanaeth crefyddol; ond mae rhai eisiau cynnwys eu hoff emynau neu efallai Gweddi’r Arglwydd. Nid ydw i wedi ymrwymo i unrhyw grefydd, ond dwi’n parchu ffydd eraill ac yn hapus i gynnwys yr hyn sydd ei angen.
Amser cyn y gwasanaeth i siarad am y person a fu farw ac i chi deimlo eich bod chi wedi cael gwrandawiad da wrth wneud hynny. Os dymunwch, gwnaf fy ngorau i ymweld â chi yn eich cartref. Ambell waith (e.e. oherwydd Covid) mae wedi bod yn fwy ymarferol i gyfathrebu gyda galwad fideo gallaf ei sefydlu ar eich cyfer. Mae’r cyfarfod hwn yn cymryd 1 i 2 awr fel arfer. Dwi’n mwynhau pob agwedd o fod yn Weinydd Angladd, ond yn enwedig gwrando ar bobl yn siarad am rhywun y mae nhw wedi caru. Gofynnaf gwestiynau fydd yn crisialu eich meddyliau ac atgofion a’ch helpu i ganolbwyntio ar yr hyn oedd y person yma yn golygu i chi. Hyd yn oed pan mae’r berthnas wedi bod yn gymhleth ac efallai yr ymadawedig yn unigolyn nad oedd yn hawdd ei drin/thrin, mae gen i ddiddordeb i’ch helpu i ddweud eich gwirioneddau, yn union fel yr ydych chi eisiau dweud, a lleihau unrhyw anghytundeb â’r galarwyr eraill.
Ymgynghoriad llawn ar gynnwys terfynol y gwasanaeth. Nid ydw i eisiau i chi gael eich synnu yn ystod yr angladd, felly fe fydda i wastad, ymhell ymlaen llaw, yn sicrhau eich bod wedi darllen popeth rydw i wedi ysgrifennu a bod gynnon ni hen ddigon o amser i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen. Mae hyn yn sicrhau bod y ffeithiau’n gywir a naws a mynegiant y gwasanaeth fel y dymunwch.
Bod ar gael ar gyfer cefnogaeth efo’r gwasanaeth o’r pryd dwi’n cael fy ngofyn i’w arwain tan mae’r gwasanaeth wedi dod i ben. Oherwydd natur fy ngwaith nid ydwi’n gallu ymateb bob tro pan gysylltwch â fi, ond fe fydda i’n eich galw yn ôl mor fuan ag sy’n bosib os ydych chi’n gadael neges.
Bod yn fodlon gwisgo rhywbeth gwahanol…e.e. dilyn cynllun lliw neu ffitio i mewn gyda lliwiau pêl-droed. Unwaith gwnes i fathodyn hoff dîm dyn a’i roi ar gefn fy nghôt felfared du oherwydd bod y weddw wedi gofyn i alarwyr wisgo crysau tîm ei gwr.
Dwi’n anelu at gyrraedd hanner awr cyn dechrau’r gwasanaeth ac i aros ar y diwedd tan fydd pob galarwr wedi gadael.
Gydag unrhyw angladd a dathliad bywyd, fy mwriad bob tro yw i greu a darparu gwasanaeth sydd yn cwrdd, mor agos ag sy’n bosib, ag anghenion y galarwyr.

Tystebau i Nicola Dunkley
















