Cwnsela
Nid yw profedigaeth yn salwch ond yn rhan naturiol o brofiad bywyd. Mae llawer ohonom yn ymdopi yn iawn gyda chefnogaeth ffrindiau a theulu. Fodd bynnag, am wahanol resymau, mae rhai ohonom yn profi galar fel rhywbeth cymhleth neu drawmatig, gan ei wneud yn anodd iawn ei drafod a bryd hynny gall dod o hyd i gymorth ychwanegol fod yn ddefnyddiol. Mae yna elusennau profedigaeth sydd yn cynnig cefnogaeth yn rhad ac am ddim fel Cruse Bereavement Care. Yn ogystal gellir darganfod elusennau cenedlaethol a lleol ar-lein neu drwy ofyn i’ch meddyg.
Dwi wedi gweithio fel gwnselydd proffesiynol ers 2007, mewn ymarfer preifat yn ogystal ag ysgolion a phrifysgolion. Bu profedigaeth yn barhaol yn un o fy niddordebau ac yn 2004, cefais fy hyfforddi i fod yn Wirfoddolwr Profedigaeth gan Cruse Bereavement Care. Dros y 19 blywyddyn nesaf gweithias i gyda channoedd o bobl o bob oed a gyda phob math o brofedigaeth. Dwi hefyd wedi goruchwylio cydweithwyr a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd.
Ymddeolais o Cruse yn ddiweddar ond rwy’n parhau i weithio fel aelod cwbl gymwys ac achrededig o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) a’r Gymdeithas Genedlaethol Cwnsela a Seicotherapi (NCPS). Mae croeso i chi gysylltu â mi am gwnsela os dymunwch, er y byddwn bob amser yn argymell rhoi cynnig ar yr opsiynau rhad ac am ddim yn gyntaf, gan y gallai hynny fodloni eich anghenion.
